Mae Heddlu Dyfed Powys yn galw am dystion i ddigwyddiad mewn maes parcio yn nhref Caerfyrddin ar ddydd Calan eleni.

Y gred ydi i ddyn a oedd yn cerdded â merch yn cario balŵns ar Heol Ioan, Caerfyrddin ar ddydd Calan, ddiodde’ ymosodiad rhwng 3 a 4 o’r gloch y bore.

 

Fe lwyddodd yr ymosodwr i ddianc o’r safle, ddim yn bell o’r toiledau, gan adael y dioddefwr gyda mân anafiadau.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.