Mae’r cyn-weinidog Leighton Andrews yn dweud bod ganddo dystiolaeth newydd sy’n dangos bod Carwyn Jones wedi derbyn honiadau am fwlio yn erbyn y diweddar Carl Sargeant dair blynedd yn ôl a’i fod wedi addo ymchwilio iddyn nhw.

Yn ôl y cyn aelod o gabinet y Prif Weinidog, fe wnaeth e, Carl Sargeant a gweinidog arall godi “pryderon” gyda Carwyn Jones yn 2014 ac mae’n dweud bod ganddo neges destun sy’n profi hynny.

Mae Leighton Andrews wedi honni eisoes bod Carwyn Jones wed camarwain y Cynulliad trwy ddweud nad oedd wedi cael honiadau fod bwlio’n digwydd o fewn ei Lywodraeth.

Heno, mae Swyddfa Carwyn Jones ei hun wedi ymateb trwy ddweud bod y Prif Weinidog yn cadw at yr atebion y mae eisoes wedi eu rhoi.

Y neges destun

Mae Golwg360 wedi gweld y neges destun y mae Leighton Andrews wedi ei ollwng i rai o’r cyfryngau ac sydd hefyd wedi cyrraedd y Blaid Geidwadol.

Mae swyddfa’r Prif Weinidog wedi anfon llythyrau cyfreithiol at gyrff yn y wasg a’r cyfryngau yn eu rhybuddio rhag cyhoeddi’r neges, gan ddweud y gallai fod yn enllibus at y Prif Weinidog ac y byddai’n anghyfrifol o ystyried bod ymchwiliad ar droed.

Os yw’r neges gan un o gynghorwyr arbennig Carwyn Jones yn ddilys ac yn ymwneud â honiadau bwlio, fe fyddai’n awgrymu bod y Prif Weinidog wedi derbyn honiadau o’r fath a’i fod yn bwriadu holi yn eu cylch.

“Ceisio ein perswadio i beidio rhoi dim ar bapur”

“Nôl yn 2014, roedd y Prif Weinidog wedi cael gwybod am y pryderon, a godwyd yr wythnos hon gan Darren Millar [yr AC Ceidwadol], gan dri Gweinidog Cabinet gan gynnwys Carl Sargeant,” meddai Leighton Andrews.

“Steil y Prif Weinidog oedd bob tro i geisio delio â’r pethau hyn yn anffurfiol, ac i geisio ein perswadio i beidio â rhoi dim ar bapur.”

Mae Leighton Andrews bellach wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn cynnwys ei honiadau am gamarwain y Cynulliad ac yn galw ar y Prif Weinidog i drosglwyddo’r holl atebion perthnasol I ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan yr ymgynghorydd o’r Alban, James Hamilton, fydd yn edrych ar yr honiadau sydd wedi cael eu gwneud.

Ceidwadwyr yn ymosod

Fe fanteisiodd y Ceidwadwyr ar yr honiadau diweddara’ hefyd gan ddweud bod Carwyn Jones heb gadw at yr “egwyddorion uchaf”.

“Mae maint cynyddol y dystiolaeth sydd nawr yn codi o nifer o ffynonellau da yn cryfhau’r achos y gallai’r Prif Weinidog fod wedi camarwain y Cynulliad,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.