Mae adroddiad gan banel o arbenigwyr yn dweud fod angen cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad yng Nghymru o 60 i rhwng 80 a 90.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai rhoi hawl i bobol 16 ac 17 oed bleidleisio yn “ffordd rymus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad ymhlith pobol ifanc.”

Daw’r sylwadau yn dilyn adroddiad swmpus gan banel o arbenigwyr yn ystyried ffyrdd o ddiwygio’r Cynulliad Cenedlaethol sydd â 60 o Aelodau Cynulliad ar hyn o bryd.

Ethol Aelodau Cynulliad

Mae’r adroddiad ‘Senedd sy’n gweithio i Gymru’ yn nodi y dylai’r aelodau gael eu hethol drwy “system etholiadol gydag atebolrwydd i etholwyr ac amrywiaeth yn ganolog iddo, fwy cyfrannol ac un sydd wedi’i seilio ar amrywiaeth.”

Mae’r panel yn nodi eu bod yn ffafrio’r system o Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, gyda’r opsiwn Cynrychiolaeth Gyfrannol drwy Restr Hyblyg ynghyd â system wedi’i seilio ar yr opsiwn Aelodau Cymysg Cyfrannol presennol.

“Mae ein hargymhellion wedi’u cynllunio i sicrhau bod gan y Cynulliad y nifer o Aelodau sydd ei angen arno er mwyn iddo gynrychioli’n effeithiol y bobol a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a bod yn senedd sydd wirioneddol yn gweithio dros Gymru yn awr ac yn y dyfodol,” meddai Laura McAllister, Cadeirydd y panel o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Ym 1999, nid oedd gan Aelodau’r Cynulliad ddigon o bwerau i effeithio ar fywydau dyddiol pobol yng Nghymru,” meddai.

“Heddiw, mae’r Aelodau’n gyfrifol am gyllideb o £15 biliwn, maent yn gwneud deddfau yng Nghymru mewn nifer o feysydd pwysig fel iechyd ac addysg, ac maent yn gallu newid y trethi a dalwn.”

“Heddiw, dim ond 60 o Aelodau sydd gan y sefydliad o hyd, a  gyda’i bwerau cynyddol i effeithio ar fywydau pobol Cymru, nid oes ganddo’r capasiti sydd ei angen arno.”

‘Senedd fwy cynaliadwy’

Mae Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, wedi croesawu’r adroddiad gan ddweud ei fod yn “cyflwyno dadansoddiad annibynnol a manwl o’r dystiolaeth ac atebion posibl i greu senedd fwy cynaliadwy sy’n gwasanaethu pobol Cymru ymhell i’r dyfodol.”

“Bydd Comisiwn y Cynulliad yn trafod y cynigion yn fanwl yn ystod y misoedd nesaf ac yn ymgysylltu â phobol ledled y wlad ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y gallwn gyrraedd consensws eang dros newid a darparu deddfwrfa gryfach, fwy cynhwysol a mwy blaengar sy’n gweithio i Gymru am flynyddoedd lawer i ddod.”