Mae dyn a gafwyd yn euog o lofruddio dyn arall â chyllell a morthwyl wedi’i garcharu am 23 o flynyddoedd gan farnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Churton, 67, yn ei gartref yn Wrecsam ar Fawrth 27.

Plediodd Jordan Davidson, 26, yn euog i gyhuddiad o ladd ac i nifer o gyhuddiadau eraill, gan gynnwys bwrgleriaeth, lladrata, ceisio lladrata a cheisio achosi niwed corfforol difrifol i blismyn.

Roedd e wedi’i ryddhau o’r carchar ar drwydded pan laddodd Nicholas Churton, cyn-berchennog bwyty oedd ag anableddau.

Clywodd y llys ei fod e wedi bygwth y dyn yn y dyddiau cyn ei ladd a’i fod e wedi difrodi ei fflat, ac wedi anfon negeseuon at ffrindiau’n dweud ei fod yn dyheu am “hollti rhywun” â chyllell.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Jordan Davidson ei fod yn dioddef o salwch meddwl.

Yn dilyn yr achos, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod Jordan Davidson wedi ymosod ar nifer o blismyn wrth iddyn nhw ei arestio, a’i fod e wedi trywanu swyddog carchar yn ei wddf.