Mae’r rheithgor yn achos llanc, sydd wedi ei gyhuddo o baratoi ymosodiad brawychol yng Nghaerdydd, wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Llys y Goron Birmingham wedi clywed honiadau bod y bachgen 17 oed o Rondda Cynon Taf wedi bod yn cynllwynio’r ymosodiad ar y we, wedi ysgrifennu llythyr am ei fwriad i ladd ei hun, ac wedi defnyddio Instagram i annog brawychiaeth.

Ni ellir cyhoeddi ei enw oherwydd ei oedran.

Dywedodd y llanc wrth yr heddlu ei fod wedi mynd a chyllell a morthwyl i’r ysgol, lle’r oedd yn ddisgybl, ar y diwrnod y cafodd ei arestio.

Ond mae’n gwadu ei fod wedi ystyried defnyddio’r arfau tra roedd yn yr ysgol ac nad oedd ganddo fwriad i weithredu unrhyw fath o ymosodiad.

Mae’r bachgen yn gwadu paratoi gweithred brawychol ym mis Mehefin eleni, dau gyhuddiad o annog brawychiaeth ar-lein a dau gyhuddiad o fod a chylchgronau propaganda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ei feddiant.