Mae pryderon y gallai rhagor o waith cwmni Airbus gael ei symud i Tsieina o Gymru ar ôl Brexit.

Dyna rybudd Uwch Ddirprwy Lywydd y cwmni yn y Deyrnas Unedig, Katherine Bennett pan aeth gerbron pwyllgor busnes, ynni a strategaeth ddiwydiannol San Steffan ddydd Mawrth.

Tra bod dylunio adenydd awyrennau’n rhan bwysig o waith y cwmni yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys y safle ym Mrychdyn yn Sir y Fflint, fe fyddai allforio i wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn destun costau ychwanegol ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd wrth y pwyllgor fod Tsieina “yn curo ar y drws” i gael derbyn y gwaith ychwanegol.

Fel rhan o’r undeb dollau, y farchnad sengl ac Asiantaeth Diogelwch Awyrennau Ewrop, gall cydrannau Airbus gael eu hallforio ar draws Ewrop heb drafferth, meddai Katherine Bennett.

Ond mae hi wedi rhybuddio y gallai’r cwmni ei chael hi’n anodd denu rhagor o fuddsoddiad yn sgil Brexit, ac y byddai’n hawdd i Tsieina fanteisio ar hynny.

Gweithlu

Mae’r 15,000 o staff yng ngwledydd Prydain yn cyfateb i 10% o holl weithlu’r cwmni, a ffatri Brychdyn sy’n bennaf gyfrifol am adeiladu adenydd i awyrennau Airbus.

Mae gan y cwmni ffatrïoedd hefyd ger Bryste, Portsmouth a Stevenage.

Mewn datganiad i bwyllgor San Steffan, dywedodd grŵp ADS, sy’n cynrychioli’r sector aerofod ac amddiffyn, y gallai costau ychwanegol yn sgil Brexit gyfateb i hyd at £1.5bn.

Byddai’r gost ychwanegol yn deillio o wiriadau ger ffiniau gwledydd Ewrop a gwaith papur ychwanegol er mwyn allforio nwyddau.