Daeth llwyddiant i glybiau Eryri ar eu tir eu hunain y penwythnos hwn wrth iddyn nhw ennill y nifer mwyaf o bwyntiau yn eisteddfod y ffermwyr ifanc eleni.
Ar derfyn dydd daeth ffederasiwn Clwyd yn ail, a Sir Gâr a Cheredigion yn gydradd trydydd.
Aeth y goron yn ôl i Sir Benfro eleni gyda Naomi Nicholas o glwb Llys-y-frân yn ei hennill am yr ail flwyddyn yn olynol am stori fer ar y thema Cyfrinach neu Drysor, a Llywela Edwards o Glwyd yn cael ei chadeirio am y gerdd orau.
Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal eleni yn Venue Cymru Llandudno, a llywydd y dydd oedd Rhian Parry o Ben Llŷn.
Canlyniadau eraill
Côr: 1) Eryri 2) Sir Gar 3) Clwyd
Deuawd/ triawd doniol: 1) Dyfan, Erwan ac Iwan Maldwyn 2) Jessica a Scott Sir Benfro 3) Ynyr, Aled a Tomos Clwyd
Unawd Sioe Gerdd: 1) Jessica Robinson Sir Benfro 2) Modlen Alun Eryri 3) Glain Rhys, Meirionydd
Parti deusain 1) Dyffryn Madog Eryri 2) Llangadog Sir Gar 3) Eglwyswrw Sir Benfro
Unawd cerdd dant: 1) Lleucu Arfon Meirionydd 2) Sophie Jones Brycheiniog 3) Enlli Pugh Eryri
Ymgom: 1) Clwyd 2) Ynys Môn
Stori a sain: 1) Brycheiniog 2) Maldwyn
Ensemble lleisiol: 1) Maldwyn 2) Eryri 3) Meirionnydd.
Sgets: 1) Eryri 2) Meirionydd 3) Maldwyn
Parti llefaru: 1) Ynys Môn 2) Eryri 3) Clwyd
Can gyfoes: 1) Sir Gar 2) Eryri 3) Meirionnydd
Meimio i gerddoriaeth: 1) Cwman Sir Gar, 2) Llidiartywaen Maldwyn 3) Felin-fach Ceredigion
Llefaru 26 neu iau: 1) Rhian Evans Ceredigion 2) Sion Jenkins Sir Benfro 3) Daniel O’Callaghan Sir Gar
Unawd 21 neu iau: 1) Elis Jones Clwyd 2) Esyllt Jones Sir Benfro 3) Teleri Haf Thomas Brycheiniog
Adrodd digrif: 1) Erin Dwyfor Roberts Eryri 2) Aled Lloyd Sir Benfro 3) Non Gwenllïan Williams Ynys Môn
Unawd 26 neu iau: 1) Jessica Robinson Sir Benfro 2) Heulwen Melangell Meirionnydd 3) Ilan Jones Maldwyn
Deuawd/ triawd neu bedwarawd cerdd dant: 1) Eryri 2) Meirionnydd 3) Ceredigion
Canu emyn: 1) Sion Eilir Clwyd 2) Enlli Pugh Eryri 3) Hannah Richards Sir Gâr
Llefaru 16 neu iau: 1) Mali Elwy Clwyd 2) Gwion Ifan Ceredigion 3) Beca Jarman Meirionnydd
Unawd offerynnol: 1) Hannah Parry Maldwyn 2) Nest Jenkins Ceredigion 3) Ioan Rees Clwyd
Llefaru 21 neu iau: 1) Nest Jenkins Ceredigion 2) Erin Dwyfor Roberts Eryri 3) Elin Mererid Lewis Maldwyn
Unawd 16 neu iau: 1) Owain Jones Clwyd 2) Sophie Jones Brycheiniog 3) Twm Tudor Ynys Môn