Bydd llyfr ac arddangosfa deithiol i ymdrin ag effaith y Rhyfel Mawr ar ardaloedd gwledig sir Conwy yn cael eu lansio yn Llanrwst yr wythnos nesaf.

Prosiect gan Fenter Iaith Conwy a gafodd ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw ‘Conwy a’r Rhyfel Mawr’, ac mae’n ffrwyth dwy flynedd a hanner o ymchwil.

“Nod y prosiect oedd cyfuno gwybodaeth o ffynonellau cyfarwydd ag ymchwil newydd i greu arddangosfa deithiol, llyfr gwefan a chynhyrchiad drama,” meddai Eryl Prys Jones, swyddog cyflogedig y prosiect.

“Un o’r amcanion oedd portreadu’r rhai a gafodd eu lladd fel pobl go-iawn yn eu cymunedau yn hytrach na rhestr o flaenlythrennau a rhifau milwrol – a hyn o safbwynt Cymreig yn hytrach nag un filwrol Prydeinig.”

Llyfr yn cofnodi’r hanes

Mae’r llyfr a ysgrifennodd fel rhan o’i waith, Conwy Wledig a’r Rhyfel Mawr, yn trafod hanes rhai o’r 364 o drigolion lleol a gafodd eu lladd, ac effaith hynny ar eu hardaloedd.

Fe fydd y llyfr yn cael ei rannu’n rhad ac am ddim yn yr arddangosfeyddd ac mae copïau ar gael o swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst a hefyd yn llyfrgelloedd y sir.

Fe fydd y lansio’n digwydd nos Iau yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst am 6.30, ac fe fydd yr arddangosfa yn ymweld â gwahanol ardaloedd o’r sir dros y tri mis nesaf.

Fe fydd y wefan, www.conwyrhyfelmawr.org hefyd yn dod yn fyw yn ystod y lansiad, a’r bwriad yw ei datblygu fel ffynhonnell gynhwysfawr a gaiff ei diweddaru yn ôl yr angen.