Mae dyn o Gaerdydd wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl ei gael yn euog o lofruddio’i ferch fach fabwysiedig.

Mi gafwyd Matthew Scully-Hicks, 31 oed, yn euog o lofruddio ei ferch ddeunaw mis oed, Elsie Scully-Hicks, a hynny bythefnos ar ôl ei mabwysiadu’n llawn ym mis Mai’r llynedd.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, dywedodd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies y bydd yn rhaid iddo dreulio  o leiaf 18 mlynedd dan glo.

Clywodd y llys ei fod wedi ysgwyd Elsie a’i tharo ar ei phen yn ei gartref yn Llandaf ac wedi cael trafferthion i ymdopi wrth i’w ŵr, Craig Scully-Hicks, weithio’n llawn amser.

Mi wnaeth Matthew Scully-Hicks wadu llofruddiaeth, ond mi wnaeth y rheithgor ei gael yn euog ddydd Llun yn dilyn achos a barodd am bedair wythnos.

‘Dychrynllyd’

“Mi ddioddefodd Elsie gamdriniaeth gorfforol ddychrynllyd dan law Matthew Scully-Hicks, dyn a ddylai fod yn ei gwarchod ond a wnaeth, yn lle, gyflawni ei llofruddiaeth greulon,” meddai llefarydd ar ran NSPCC Cymru.

“Mae’n wirionedd trist fod camdriniaeth ac esgeulustod yn digwydd bob dydd mewn nifer o gartrefi ledled y wlad,”  ychwanega’r llefarydd gan ddweud ei fod yn “ddyletswydd ar bawb” i adnabod yr arwyddion pan fo plentyn angen help.