Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 23 oed a gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghwm Tawe fore Sadwrn.

Bu farw Jason Thomas a dynes 18 oed pan darodd eu car Peugeot 206 yn erbyn polyn wrth i’r car deithio ar hyd Ffordd Abertawe i gyfeiriad Clydach.

Yn ôl adroddiadau lleol, ei gariad Naomi Carter yw’r ddynes sydd wedi marw.

Cafodd bachgen 11 mis oed anafiadau ond dyw ei fywyd ddim mewn perygl. Mae lle i gredu mai mab Jason Thomas yw hwnnw.

‘Tad newydd’

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Jason Thomas: “Roedd Jason yn fab, brawd, ŵyr, nai ac ewythr ac fe ddaeth e, yn gynharach eleni, yn dad newydd i ferch fach, Freya.

“Roedd e mor garedig a byddai’n gwneud unrhyw beth, yn llythrennol, i helpu unrhyw un.

“Roedd e’n berson hynod sensitif, emosiynol a gofalgar ond roedd e hefyd yn gwybod sut i fwynhau.

“Roedd e’n parchu cymuned Trebannws, lle’r oedd e’n adnabyddus, yn fawr iawn ac roedden nhw, yn eu tro, yn ei barchu fe.”