Mae dau o bobol wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhrebannws yng Nghwm Tawe yn oriau man y bore ma.

Roedd car Peugeot 206 du yn teithio ar hyd Ffordd Abertawe i gyfeiriad Clydach pan darodd bolyn ar ochr y ffordd.

Cafodd y gyrrwr, dyn 23 oed, anafiadau difrifol ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd dynes 18 oed, oedd yn teithio yn y car, anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a’r lle hefyd.

Cafodd plentyn 11 mis oed anafiadau, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth.