Mae cyflogau wythnosol pobol Cymru ymysg yr isaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ystadegau newydd.
Tra bod enillion wythnosol ar eu huchaf yn Llundain gyda gweithwyr yn ennill ar gyfartaledd £692 yr wythnos, mae enillion ar eu hisaf mewn llond llaw o ardaloedd gan gynnwys Cymru.
Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau mae Cymry ar gyfartaledd yn ennill £505.90 bob wythnos, o gymharu â £555.40 dros Brydain oll.
Ac yn ogystal ag ennill cyflog bron i £50 yn is bob wythnos, mae’r cynnydd yng nghyflogau’r Cymry eleni o gymharu â’r llynedd hefyd ymysg y gwaethaf yng ngwledydd Prydain (+ 1.0%).
Tâl wythnosol ledled Prydain
- Cymru: £505.90
- Gogledd Iwerddon: £503.80
- Yr Alban: £547.70
- Lloegr: £555.80
- Y Deyrnas Unedig: £550.40