James Jook - dwy gic gosb ac un wedi'i gwrthod ar gam
Hanner amser – De Affrica 10 Cymru 6
Fe ildiodd Cymru gais annisgwyl o fewn dau funud cyn rheoli llawer o’r chwarae am weddill yr hanner cyntaf.
Ar yr egwyl, roedden nhw o fewn pedwar pwynt ond, onibai am gamgymeriad gan y dyfarnwr, dim ond pwynt fyddai ynddi.
Fe aeth y gêm yn groes i’r disgwyl o’r dechrau, gyda De Affrica’n rhedeg o’r dechrau ac yn manteisio ar gamgymeriad gan Sam Warburton wrth iddo fethu tacl.
Fe groesodd Fran Steyn yn y gornel gyda Morné Steyn yn ychwanegu’r ddau bwynt.
Ar ôl hynny, Cymru a gafodd fwyafrif y chwarae, gyda’r lein yn gweithio’n dda, y sgrym yn dal eu tir a nifer o’r blaenwyr ifanc a’r mewnwr Mike Phillips yn cario’r bêl yn gyson.
Roedd Cymru’n amrywio’u chwarae hefyd gyda’r maswr newydd Rhys Priestland yn dangos menter ac yn dod o fewn dim i sgorio ym munud ola’r hanner gydag ymgais anferth am gôl adlam o hanner ffordd.
Ciciau cosb
Fe arweiniodd y pwysau gan Gymru at giciau cosb llwyddiannus gan James Hook ar ôl naw munud a hanner awr ac fe wnaeth y dyfarnwr gamgymeriad trwy wrthod gôl gosb arall ar ôl 13 munud.
Roedd wyneb Hook yn dangos yn glir ei fod yn credu bod y gic yn ddilys ar ôl iddi symud un ffordd a’r llall yn y gwynt.
Y gwynt a achosodd fwya’ o drafferthion i Gymru a, thua diwedd yr hanner, fe ddechreuodd De Affrica gael ambell i symudiad ymhlith y blaenwyr. Roedd y ddau Steyn hefyd yn cicio’n bell bob tro yr oedden nhw’n cael cyfle.
Ond roedd Cymru wedi dangos addewid hefyd gyda’r canolwyr, Jamie Roberts a Jonathan Davies, yn rhedeg yn gry’ sawl tro.
Y dyfarniad ar yr hanner oedd fod Cymru’n rheoli’r chwarae ond yn methu â chroesi’r llinell fantais yn ddigon pendant, tra bod De Affrica’n glinigol gyda’u cyfleoedd nhw.