Parc Cenedlaethol Eryri
Mae’r diffyg tai fforddiadwy i bobol ifanc yn broblem nid yn unig ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond ar draws y wlad i gyd.

Dyna farn Cadeirydd Awdurdod y Parc yn dilyn adroddiad gyhoeddwyd ddoe sy’n dweud fod pobol ifanc yn symud allan o’r ardal a phobol hŷn yn symud i mewn.

Dywedodd y bydd rhaid cadw llygad ar bethau a galw am arian gan y Cynulliad neu’r Cyngor i godi tai fforddiadwy os yw pethau’n gwaethygu.

“Dyw hyn ddim yn broblem i ni yn y Parc Cenedlaethol yn unig, nac yng Ngwynedd, nac yng Nghymru hyd yn oed. Mae’n broblem drwy gydol Prydain,” meddai E. Caerwyn Roberts.

“Yn Harlech, mae yna blotiau sydd ar werth am ymhell dros £100,000 – cyn i chi brynu bricsen, hyd yn oed.

“Yr unig bobol fydd yn gallu fforddio hynny ydi rhai cefnog, ac o bosib rhai sy’n symud i mewn o ardaloedd eraill.”

Dywedodd nad oedd am “gondemnio” pobl oedd symud i mewn, “ond mae’r gymdeithas wedyn yn mynd yn bobl hŷn a dydych chi ddim yn cael pobl ifanc”.

Ychwanegodd fod “prisiau tai yn gostwng”  ond nad ydyn  nhw “byth yn mynd i ostwng digon i fod o fewn gafael pobl ifanc”.

Tai fforddiadwy

Yn ôl yr adroddiad, bydd 30% o boblogaeth Eryri mewn trefi gan gynnwys  Betws y Coed, Aberdyfi, Harlech a Beddgelert, dros 65 oed erbyn 2032, o’i gymharu â 23% yn 2008.

Mae cyflogau cyfartalog yn y parc cenedlaethol tua £18,000, ond mae prisiau tai yn £142,000 ar gyfartaledd.

Dywedodd Caerwyn Roberts y bydd rhaid cadw llygad ar y farchnad dai yng Ngwynedd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gweld pa mor ddifrodol yw pethau.

“Dw i newydd roi’r ffon i lawr ar ôl siarad â Thai Cymunedol Gwynedd. Roedd cwpl ifanc ar y rhestr ers dwy flynedd bron ond ddim yn gallu cael tŷ,” meddai.

“Mae ’na brinder mawr o dai ar osod, fel tai cyngor, ar hyn o bryd. Ar ôl blwyddyn, bydd rhaid edrych eto ar faint o dai fforddiadwy sydd wedi’u codi yng Ngwynedd.

“Os nad oes yna lawer iawn o dai fforddiadwy yn cael eu codi, ni fydd pobol yn gallu fforddio morgais i brynu tŷ.

“Mi fydd hi fyny i Lywodraeth Cymru wedyn ac mae Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd yn edrych i weld a ydyn nhw’n mynd i allu cyfrannu’n ariannol i godi tai fforddiadwy.”