Dafydd Elis-Thomas
Ar drothwy cynhadledd Plaid Cymru, mae un o’r ymgeiswyr i arwain y blaid wedi dweud na fydd Cymru byth yn annibynnol.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas na ddylai Plaid Cymru ddadlau o blaid annibyniaeth yn yr un modd a phlaid yr SNP yn yr Alban.

Ychwanegodd mai ‘rhith’ yw annibyniaeth ac na fydd fyth yn digwydd mewn gwirionedd.

“Rydw i’n hapus i drafod hunanlywodraeth a hunanbenderfyniad ond rwy’n ystyried annibyniaeth yn foesegol anghydnaws,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post.

“Rydw i’n rhan o’r dewis amgen, gwyrdd, Ewropeaidd, ôl-genedlaetholgar. Ewropead rhanbarthol ydw i a dydw i ddim am newid fy marn.

“Mae’n amlwg o’r polau piniwn mai tua 10% sy’n cefnogi annibyniaeth yng Nghymru. Blaenoriaeth y bobol yw rhagor o ddatganoli o fewn Ewrop a dyna fy marn i ar y mater hefyd.”

Dywedodd ei fod wedi penderfynu rhoi ei enw ymlaen yn arweinydd fel nad yw Plaid Cymru yn “segura ar y meiciau ôl”

“Mae gennym ni gyfrifoldeb i barhau â’r gwaith yr oedden ni yn ei wneud yn ystod ein tymor cyntaf mewn grym.”

Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, eisoes wedi dweud y bydd hi’n sefyll yn ei erbyn.

Mae disgwyl i arweinydd newydd y blaid gael ei gyhoeddi yng nghynhadledd y gwanwyn.