Meri Huws
Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i gefnogi darparu Cofnod dwyieithog.

Yr wythnos diwethaf datgelodd Golwg 360 fod y Comisiwn eisiau darparu gwasanaeth dwyieithog, ond yn ei ystyried yn rhy gostus.

Maen nhw ar hyn o bryd yn ystyried defnyddio cyfieithydd ar-lein Google Translate er mwyn gwneud rhan o’r gwaith, er mwyn haneru’r gost i £110,000.

Ond mae cyfieithwyr ac arbenigwyr ar dechnoleg iaith wedi beirniadu’r syniad gan ddweud nad yw safon y cyfieithydd peirianyddol yn ddigon da.

Serch hynny dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws, wrth Golwg 360 ar Faes yr Eisteddfod ei bod hi’n croesawu’r egwyddor y tu ôl i’r penderfyniad.

Ychwanegodd y bydd Bwrdd yr Iaith yn eu cynghori ar sut orau i ddefnyddio cyfieithwyr peirianyddol er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith.

“Mae’r ffaith fod y Comisiwn wedi datgan eu dymuniad i gyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog yn gam ymlaen ac yn rhywbeth yr ydw i a fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd yn ei groesawu’n fawr,” meddai Meri Huws

“Mae’r penderfyniad polisi wedi ei wneud. Deallwn y bydd swyddogion y Comisiwn yn awr yn ymchwilio i drefniadau darparu Cofnod dwyieithog mewn ffordd ymarferol, gynaliadwy a chost effeithiol.

“Bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos â’r Comisiwn ac yn eu cynghori ar yr opsiynau gorau wrth ddarparu Cofnod dwyieithog o drafodion y Senedd, gan gynnwys y defnydd o feddalwedd cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol.”

‘Anghyson’

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n teimlo fod y neges y mae Bwrdd yr Iaith yn ei gyfleu i’r Cynulliad yn un “anghyson”.

Dywedodd llefarydd ei fod yn amlwg na fyddai unrhyw beth yn digwydd nes diwedd y flwyddyn er bod Bwrdd yr Iaith wedi mynnu yn y gorffennol fod angen gweithredu’n syth.

Roedd angen i’r Bwrdd fynnu fod Cofnod dwyieithog yn bodoli erbyn i’r gwleidyddion ddychwelyd i’r Cynulliad, meddai.

“Os y chi’n edrych ar yr hyn ddywedon nhw yn eu hargymhellion yn yr adroddiad a chymharu datganiad heddiw mae fel petai’r neges wedi meddalu â’u bod nhw’n hapusach gyda llawer llai,” meddai Catrin Dafydd wrth Golwg360.

“Ni ddim yn hapus o gwbl. Ni’n teimlo bod pawb yn llusgo’u traed yn hyn o beth.

“Yn ôl cofnodion y cynulliad yr wythnos ddiwethaf maen nhw’n ystyried dechrau’r newidiadau o fis Rhagfyr ymlaen.

“Does yna ddim rheswm pam na ddylai nhw ddechrau ym mis Medi a dim rheswm pam na ddylai’r bwrdd fod yn glir am yr angen i hynny ddigwydd cyn gynted a bo modd.

“Mae pawb yn gallu gweld bod nhw’n torri’i chynllun iaith ac felly’n torri’r gyfraith. Rydyn ni’n disgwyl i’r Bwrdd fod yn gwbl glir am hyn er mwyn gosod disgwyliadau.

“Mae’n bryder eu bod nhw yn yr Eisteddfod o bob man fel petai nhw’n rhoi rhwydd hynt i’r Cynulliad wneud penderfyniadau sy’n aradeg ac efallai’n annigonol.

“Mae wir angen i’r Bwrdd gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac i’r Cynulliad sylweddoli bod disgwyliadau pobl Cymru o safbwynt yr iaith ar ei hysgwyddau nhw”.