Pafiliwn pinc Wrecsam
Bydd mwy o weithwyr gan y BBC yn yr Eisteddfod yr wythnos hon nag oedd ym mhencampwriaeth tennis Wimbledon.

Datgelodd y gorfforaeth y bydd 238 o bobol yn gweithio iddyn nhw ar faes y Brifwyl, o’i gymharu â 185 yn y bencampwriaeth tennis.

Ond dywedodd y BBC y bydd y rhan  mwyaf o’r gweithwyr ar y maes am ddiwrnod yn unig, wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar greu rhaglenni unigol.

Dywedodd Siân Gwynedd, pennaeth rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, y byddai nifer o weithwyr yno “am gyfnod byr”.

“Rydyn ni’n gweithio’n effeithlon ar sawl llwyfan er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n anfon mwy o bobol yno nag sydd eu hangen,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu mwy o beth sy’n mynd ymlaen na’r arlwy sy’n ymddangos ar y llwyfan.”

Dywedodd S4C nad oedd disgwyl i streic newyddiadurwyr y BBC gael effaith ar ymdriniaeth y sianel o’r Eisteddfod heddiw.