Susan Elen Jones
Mae Aelod Seneddol wedi lansio ymgyrch dros fancio ar-lein yn y Gymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymunodd Susan Elan Jones, yr Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, â Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith er mwyn lansio deiseb ar-lein yn galw ar fanciau i wella eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r deiseb yn dweud y dylai banciau “gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg”.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw wedi bod yn lobio HSBC i gychwyn gwasanaeth ar-lein Cymraeg, ond fod y cwmni wedi gwrthod newid ei bolisi.

Mewn e-bost at y mudiad, fe ddywedon nhw “…nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig bancio personol [ar-lein] drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, ond mae eich sylwadau wedi’u nodi…”

Dywedodd Susan Elan Jones, AS Llafur De Clwyd, fod y gwasanaeth yn bwysig wrth i ragor o bobol ddefnyddio bancio ar-lein.

” Rydw i’n credu bod yr amser wedi dod i fanciau gynnig y gwasanaeth yn Gymraeg,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am lansio’r ymgyrch bwysig hon. Rwy’n gobeithio y bydd y Comisiynydd Iaith newydd yn gallu edrych i mewn i wasanaethau banciau pan gaiff hi neu fe ei benodi. ”

‘Amhosib’

Dywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau Cymdeithas, fod y “rhan fwyaf ohonom yn defnyddio banciau o ddydd i ddydd

“Ond wrth i ragor o ganghennau gau a llyfrau siec dod i ben, mae’n dod yn anos derbyn gwasanaethau yn Gymraeg,” meddai.

“Mae’n amhosib i fancio ar-lein yn Gymraeg. Nid oes un banc yn cynnig gwasanaethau bancio ar-lein yn y Gymraeg, er bod nifer o fentrau sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn ei wneud.

“Wrth i ragor o wasanaethau symud ar-lein, mae nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill yn anwybyddu’r Gymraeg. Eu meddylfryd yw fod y Gymraeg yn rhywbeth ymylol nad oes rhaid ei ddarparu, ond mae galw am y gwasanaeth hwn yn Gymraeg.
“Ers y 60au, mae’r Gymdeithas wedi sicrhau nifer o wasanaethau dwyieithog ychwanegol, ond wrth i dechnoleg newid, mae rhai o’r buddugoliaethau hynny yn cael eu gwrth-droi. Dyna  pam rydym yn lansio’r ymgyrch heddiw.”