Meri Huws
Yn ôl Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, dyw’r frwydr dros yr iaith ddim wedi cael ei hennill, o bell ffordd.

Dywed Meri Huws mai ei phrif nod yn ystod cyfnod ola’r Bwrdd, cyn iddo ddod i ben o fewn y flwyddyn, yw sicrhau Cofnod dwyieithog yn y Cynulliad.

“Dw i wedi gosod e’n un o’r sialensiau i fi yn ystod y cyfnod ola’ yma ein bod ni’n symud y drafodaeth yna ymlaen yn sylweddol, ein bod ni’n cael ateb i’r sefyllfa yna,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni gael cofnodion dwyieithog cyfansoddiadol yn ein gwlad ni ein hunain, sdim cwestiwn am hynny.”

Dyw Meri Huws ddim wedi penderfynu eto a fydd hi’n cynnig am swydd newydd y Comisiynydd Iaith. Ond dywedodd ei bod yn ffyddiog y bydd modd i’r Comisiynydd yn annibynnol.

“Bydd angen i’r person yna fod ag asgwrn cefn,” meddai am y swydd sydd newydd gael ei hysbysebu ac sydd i fod i gael ei llenwi yn yr hydref. “Bydd angen i’r person yna fod â dychymyg creadigol.

“Bydd angen i’r Comisiynydd weithiau gymryd penderfyniadau sy’n rhai anodd, rhai sydd efallai ddim yn gyffyrddus iawn i’r llywodraeth ac efallai ambell i benderfyniad sydd yn risg ond mae’n holl bwysig bod y Comisiynydd yn mentro.

“Yn naturiol, wedi bod yn Gadeirydd y Bwrdd am saith, mynd am wyth mlynedd, wrth gwrs mae ‘da fi ddiddordeb mewn edrych ar natur y swydd. Efallai ‘mod i’n rhy hen!” meddai.

Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 28 Gorffennaf