Yr Wyddfa
Mae’r Wyddfa “mewn perygl” oherwydd bod gormod o dwristiaid yn ei ddringo bob blwyddyn, yn ôl cylchgrawn teithio.

Yn ôl cylchgrawn Wanderlust mae angen cyfyngiadau ar faint o bobol sy’n cael dringo’r mynydd ar y tro.

Mae Her Tri Phegwn Prydain yn cael rhan o’r bai. Mae’r ras yn gofyn i bobol sy’n cymryd rhan ddringo’r Wyddfa, Scafell Pike yn Lloegr a Ben Nevis yn yr Wyddfa o fewn 24 awr.

Mae’r cyfyngiad amser yn golygu fod gormod o ddringwyr ar frys a ddim yn clirio ar eu holau, meddai’r cylchgrawn.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r her o ddringo tri phegwn uchaf y tair gwlad o fewn 24 awr wedi mynd yn boblogaidd iawn,” meddai Lyn Hughes, golygydd Wanderlust.

“Ond yn eu brys i gyrraedd pegynau’r Wyddfa, Svcafell Pike a Ben Nevis mae’r dringwyr yn gadael sbwriel, yn gyrru’n beryglus, ac yn cyfrannu dim at gymunedau lleol.”

Dylai trefnwyr Her Tri Phegwn Prydain droi cefn ar y cyfyngiad amser, a dylid sicrhau nad oes mwy na 1,000 o ddringwyr ar lethrau’r Wyddfa ar y tro, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Her Tri Phegwn Prydain mai dim ond canran bach o’r cannoedd o filoedd oedd yn dringo’r Wyddfa bob blwyddyn oedd yn cymryd rhan yn yr her.