Mae perchnogion Radio Ceredigion wedi dweud eu bod nhw’n gwbwl hyderus eu bod nhw’n cadw at amodau eu trwydded radio.
Ddoe roedd Golwg360 yn datgelu bod Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion yn dal i boeni am Gymreictod yr orsaf, er bod Ofcom wedi gwrthod cais gan y perchnogion i Seisnigo’r arlwy.
Yn ôl ei thrwydded mae gofyn i Radio Ceredigion ddarparu gwasanaeth sy’n hanner-a-hanner Cymraeg a Saesneg, ond yn ôl y Cyfeillion nid yw hyn wedi digwydd ers i gwmni Townd and Country Broadcasting brynu’r orsaf y llynedd.
“Rydw i’n mawr obeithio y bydd Ofcom yn mynd ati i sicrhau fod Radio Ceredigion yn cadw o fewn termau’r drwydded – ar y funud dyw e ddim yn digwydd,” meddai Cadeirydd y Cyfeillion, Geraint Davies.
“Yn anffodus, ers i’r orsaf newid dwylo yn Ebrill 2010 mae Town and Country wedi torri amodau’r drwydded.”
Ond mae’r cwmni wedi dweud wrth Golwg360 nad ydyn nhw’n gwneud dim sy’n groes i’r drwydded.
“We’re confident that Radio Ceredigion complies with its published format,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Town and Country Brodcasting, Martin Mumford, mewnn datganiad uniaith un frawddeg yn ymateb i ymholiadau Golwg360 am bryderon Cyfeillion Radio Ceredigion.
Ofcom yn monitro
Mae Ofcom wedi bod yn monitor arlwy Radio Ceredigion, a fis Medi y llynedd roedd y rheoleiddiwr radio wedi rhoi monitro’r cynnwys a rhoi gwybod i gwmni Townd and Country Broadcasting nad oedd y gwasanaeth yn cadw at y drwydded.
Ond erbyn mis Chwefror eleni roedd Ofcom yn dweeud bode u monitor o’r orsaf dros gyfnod o rai wythnosau yn dangos bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael lle cyfartal ar yr orsaf.
Gwrthod cais Seisnigo
Roedd y perchnogion – Townd and Country Broadcasting – wedi cyflwyno cais i newid y drwydded er mwyn cynnwys awr o raglen Gymraeg y dydd a chwarae llai o gerddoriaeth Gymraeg.
Ond ddydd Llun fe benderfynodd Pwyllgor Trwyddedu Ofcom wrthod y cais mewn cyfarfod yn Llundain.
Cwmni Town and Country Broadcasting wnaeth ddatgelu eu bod wedi methu newid y drwydded – roedd Ofcom ei hun wedi addo cyhoeddi’r ymateb ddydd Mawrth nesa’.
“Fe wnaethon ni’r cais fel ein bod yn gallu treulio llai o amser ar reoleiddio a mwy o amser yn gwneud radio lleol poblogaidd,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Townd and Country, Martin Mumford.