Llun o wefan Llangollen Hotels
Mae cadwyn o westai sy’n eiddo i’r ddynes fusnes Stephanie Booth wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae gwesty y Wynnstay Arms yn Wrecsam a’r ddau Fantastic Fun House yn yr Wyddgrug a Wrecsam wedi eu cau yn syth.

Deallir y bydd gwestai eraill sy’n rhan o gadwyn Llangollen Hotels yn parhau ar agor. Cwmni KPMG Llundain yw’r gweinyddwyr.

Mae’r gwestai eraill sy’n rhan o’r gadwyn yn cynnwys Bodidris Hall, Llandegla, The Bryn Howel, The Wild Pheasant, a The Chainbridge, ger Llangollen, The Anchor Hotel,  Rhuthun, a The Chester Bridge Hotel Hotel, yng Nghaer.

Roedd Stephanie Booth ymysg yr enwau oedd wedi gwneud cais i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, ond penderfynodd dynnu ei henw yn ôl ym mis Mai.