Gallai 150 o’r 400 o bobol sy’n gweithio yn ffatri Sogefi Filtration yn Llantrisant golli eu swyddi, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd y cwmni sy’n gwneud darnau ceir y bydd cyfnod o ymgynghori 90 diwrnod o hyd cyn y cyhoeddiad terfynol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y farchnad wedi arafu a bod angen ystyried diswyddo staff er mwyn dod a chostau i lawr.

Addawodd y cwmni gydweithio â undeb Unite, a helpu’r gweithwyr fyddai yn colli eu gwaith i ddod o hyd i swyddi newydd.

Roedd yn cydnabod y byddai yn amser caled i’r gweithwyr yno wrth iddyn nhw ddisgwyl i gael clywed eu ffawd.