Aled Roberts
Mae hanes gwahardd Aled Roberts o’r Cynulliad wedi cymryd tro arall wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg sy’n awgrymu nad oedd wedi edrych ar ganllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol wedi’r cwbl.

Heno daeth i’r amlwg fod cofnodion ar-lein y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu nad oedd unrhyw un wedi cael mynediad i’r dudalen Gymraeg sydd wrth wraidd y ddadl yn ystod y cyfnod perthnasol.

Daeth yr honiad i’r amlwg ar raglen CF99 ar S4C am 10.30pm heno.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol roedd 143 ‘hit’ ar y dudalen Saesneg yn ystod yr un cyfnod, ond dim un ar y dudalen Gymraeg.

Dyw hynny ddim o reidrwydd yn brawf nad oedd Aled Roberts wedi cael mynediad i’r dudalen Gymraeg, ond mae’r datgeliad yn sicr o ail-danio’r ddadl yn dilyn pleidlais i’w adfer i’w sedd heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol ar y rhaglen nad oedd eu hystadegau nhw yn awgrymu “nad oes yr un person wedi edrych ar y ddogfen. Mae’n bosib bod rhywun wedi edrych arno a fod hynny ddim wedi cofrestru.”

Ychwanegodd eu bod nhw yn derbyn y bleidlais yn y Senedd heddiw.

“Os ydi eu ffigyrau nhw ddim yn ddibynadwy mater iddyn nhw yw hynny,” oedd ymateb Aled Roberts.

Y cefndir

Cafodd yr Aelod Cynulliad Aled Roberts ei adfer i’w sedd yn y Cynulliad heddiw.

Pleidleisiodd 30 Aelod Cynulliad o blaid ac 20 yn erbyn ei adfer i’w sedd. Penderfynodd tri Aelod Cynulliad ymatal rhag y bleidlais.

Roedd ef a John Dixon wedi eu gwahardd o’u seddi am eu bod nhw wedi parhau’n aelodau o gyrff cyhoeddus ar ôl sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Roedd Aled Roberts o restr Gogledd Cymru yn aelod o Gomisiwn Prisiau Cymru a John Dixon o ranbarth Canol De Cymru yn aelod o Gyngor Gofal Cymru.

Ddoe dywedodd ymchwiliad annibynnol fod Aled Roberts, “wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud”.

Ychwanegodd yr adroddiad annibynnol gan Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad, fod cyngor y Comisiwn Etholiadol wedi cyfeirio Aled Roberts at reolau oedd yn hen.

Roedd y rheolau Saesneg yn gyfredol ond roedd Aled Roberts yn dweud ei fod wedi darllen y rheolau Cymraeg oedd yn dyddio’n ôl i 2006.