Justin Albert
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Justin Albert wedi’i benodi yn gyfarwyddwr newydd Cymru.

Bydd Justin yn cymryd yr awennau ar 1 Medi yn dilyn cyfnod trosglwyddo rhyngddo ef a chyfarwyddwr interim, John Morgan.

Hyd yn hyn mae wedi treulio ei yrfa yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol ynghylch hanes, diwylliant a’r byd naturiol yn yr Unol Daleithiau.

Symudodd i Gymru tair blynedd yn ôl, gan fyw a ffermio ym Mhowys gyda’i wraig a tri o blant.

Ers dychwelyd mae wedi gweithio â Horse and Country TV, ac wedi dod yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Castell Y Gelli Gandryll.

Mae’n Is-Lywydd Gŵyl Lenyddol Y Gelli Gandryll a Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Dywedodd ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i’r Foneddiges Charlotte Guest a fu’n gyfrifol am gyfieithu’r Mabinogi.

“Mae’n fraint i mi gael y cyfle i weithio gyda thîm Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac edrychaf ymlaen at rannu fy mrwdfrydedd a’m cariad at fy ngwlad gyda phawb sy’n byw yn y fro ryfeddol hon neu sy’n ymweld â hi,” meddai Justin Albert.

Dywedodd Sir Roger Jones, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei fod yn gyfnod “cyffrous a phwysig” i’r ymddiriedolaeth yng Nghymru.

“Ar sail ei brofiad eang, rwy’n siŵr y bydd Justin wrth ei fodd yn mynd i’r afael â datblygiadau newydd o’r fath, ac rwy’n hyderus y bydd yn mwynhau gweithio gyda’n partneriaid a phob aelod o’n tîm ardderchog yng Nghymru er mwyn sicrhau bod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhan fwy annatod fyth o fywyd Cymreig,” meddai.