Mici Plwm yn y 1960au
Mae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei Ddisgo Teithiol yn ôl ar y ffordd – yn ystod noson fawr yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Yn ôl yn y 1960au, fe gafodd ‘DJ Plummy’ ei ysbrydoli gan Gymdeithas yr Iaith i gael gwared â’i gasgliad o recordiau Saesneg a lawnsio’r Disco Cymraeg cyntaf. Dyna pryd hefyd y newidiodd y troellwr ei enw i ‘Mici Plwm’.

Ymwelodd Disco Teithiol Mici Plwm â chlybiau a neuaddau pentref trwy Gymru am ugain mlynedd gan rannu llwyfan gyda bandiau fel Edward H Dafis.

Cymrodd Mici ei hun ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, a derbyniodd ddedfryd o 12 mis o garchar gohiriedig am ddringo Mast Trosglwyddo Llanddona yn rhan o’r ymgyrch dros Sianel Deledu Gymraeg.

Nos Fercher, Awst 3, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam i gyhoeddi 2012 yn Flwyddyn Dathlu Hanner Canmlwyddiant Canu Roc a Phrotestio dros y Gymraeg ers sefydlu Cymdeithas yr iaith ym 1962.

“Mae Mici Plwm wedi bod yno ers y cychwyn ac wedi gweld y cyfan,” meddai Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng ngogledd Cymru.

“Mae’n wych y bydd yn cyflwyno’r gig 50 mlwyddiant yn yr eisteddfod gydag ymddangosiadau byw gan Heather Jones, band mawr yr 1980au Maffia Mr Huws, band y 1990au Ian Rush, yn ogystal â bandiau cyfoes Gai Toms a Jen Jeniro.”