Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dewis ei Gabinet i lywodraethu Cymru.
Bydd yr Iaith Gymraeg yng ngofal Leighton Andrews, sy’n parhau i ofalu am addysg Cymru.
Mae’r Cabinet yn cynnwys saith o Weinidogion, a thri Dirprwy Weinidog.
Does yna ddim Gweinidog Materion Gwledig penodol, ond mae Alun Davies yn Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth.
Gweinidogion:
Lesley Griffiths – Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart -Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg
Jane Hutt – Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
John Griffiths – Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Leighton Andrews -Gweinidog Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg
Carl Sargeant – Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Huw Lewis – Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Dirprwy Weinidogion
Gwenda Thomas – Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jeff Cuthbert – Dirprwy Weinidog Sgiliau
Alun Davies – Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd