Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae disgwyl i Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, gyhoeddi pwy fydd gweinidogion ei gabinet newydd heddiw.

Bydd rhaid iddo lenwi rhai swyddi cyn-weinidogion Plaid Cymru, gan gynnwys y Gweinidog Amaeth, y Gweinidog Treftadaeth, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a’r Dirprwy Weinidog Tai.

Bydd Carwyn Jones yn cael ei urddo’n swyddogol brynhawn ma ar ôl cael ei ethol yn Brif Weinidog yn y Senedd ddoe.

Enillodd y Blaid Lafur union hanner y seddi yn y Cynulliad yn yr etholiadau wythnos yn ôl ac mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud y bydd yn cydweithio gyda’r pleidiau eraill.

Etholwyd Rosemary Butler, AC Gorllewin Casnewydd, yn Llywydd y Cynulliad, gan olynu Dafydd Elis-Thomas oedd wedi cyflawni’r swydd ers 12 mlynedd.

Cafodd y Ceidwadwr David Melding, AC ar restr Canol De Cymru, ei ethol yn Ddirprwy-Lywydd.