Y Pafiliwn Pinc
Mae cwmnïau Toyota a Sharp wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu noddi’r Eisteddfod Genedlaethol eleni oherwydd tsunami Japan.

Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod yn Wrecsam heddiw y bydd y brifwyl yn colli tua £30,000 o ganlyniad i’r penderfyniad munud olaf gan y cwmnïau sydd â ffatrïoedd yng Nglannau Dyfrdwy a Llai.

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn derbyn llai na 25% o’i chyllid drwy’r pwrs cyhoeddus, a’r arian yma’n dod o broses grant agored gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy law Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a thrwy gytundeb gydag awdurdodau unedol Cymru a weinyddir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Cesglir gweddill yr arian drwy gronfa leol yn ardal yr Eisteddfod, gwerthiant tocynnau, hawliau darlledu a thrwy nawdd corfforaethol.

“Mewn cyfnod o gyni economaidd, mae’n her iI’r Eisteddfod, fel pob corff arall, gasglu arian.  Mae ymroddiad a chefnogaeth trigolion y dalgylch, busnesau lleol a chenedlaethol unwaith eto eleni wedi bod yn arbennig o hael, a rydym yn ddiolchgar ibawb am eu cyfraniadau.

“Mae’r byd i gyd mewn cyfnod economiadd anodd, ac fel nifer o gyrff a meysydd eraill, nid yw trychinebau rhyngwladol fel Tsunami Japan wedi ein helpu yn ein gwaith o godi arian ond rydym yn parhau i gydweithio a datblygu perthynas gyda nifer o bartneriaid yn y gobaith o sicrhau rhagor o nawdd rhwng rwan a’r Brifwyl.”

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, wrth Radio Cymru fod trefnwyr lleol yn Wrecsam eisoes wedi codi tua £210,000 o’u targed, sef £300,000.

Er 2009 mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi £150,000 y flwyddyn at yr Eisteddfod ac mae Awdurdodau Lleol Cymru hefyd yn cyfrannu £150,000.

“Roedden ni wedi cytuno ag un neu ddau o gwmnïau mawr fel Toyota a Sharp ond ar y funud olaf maen nhw wedi gorfod tynnu’n ôl,” meddai Hywel Wyn Edwards.

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai daeargrynfeydd a tsunami yn Japan yn effeithio ar yr Eisteddfod ond dyna sydd wedi digwydd.”