Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi gadael Ynys Môn er mwyn mynd ar eu mis mêl, cadarnhaodd y Teulu Brenhinol heddiw.

Gelwyd car y Tywysog William yn gadael ei gartref yn Ynys Môn ddydd Llun, gyda Range Rover yr heddlu llawn bagiau ar ei gwt.

Mae’r Teulu Brenhinol yn gwrthod cadarnhau i le y mae’r ddau wedi mynd, ond mae’n debyg eu bod nhw ar eu ffordd i ynysoedd y Seychelles yng nghefnfor India.

Roedd y Tywysog William wedi dychwelyd i’w waith gyda Llu Awyr Prydeinig y Fali ar Ynys Môn am wythnos ar ôl briodas ar 29 Ebrill.

“Dydyn ni ddim yn fodlon ymateb i unrhyw ddyfalu ynglŷn â lle y maen nhw wedi mynd, dim ond cadarnhau eu bod nhw wedi gadael,” meddai llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol.

“Mae’r pâr priod wedi gofyn i bobol barchu eu preifatrwydd yn ystod eu mis mêl.”

Cadarnhaodd y Teulu Brenhinol y bydd y mis mel yn parhau am bythefnos.