Y Mosg yn Abertawe
Mae Moslemiaid wedi gwrthdaro y tu allan i Fosg yn Abertawe oherwydd anghytundeb tros brotest.

Yn ôl y papur lleol, y South Wales Evening Post, roedd yr anghydfod wedi codi tros brotest yn erbyn llosgi’r Koran.

Yn ogystal ag achos o losgi yn yr Unol Daleithiau ym mis Mawrth, mae gwleidydd eithafol o Abertawe wedi’i gyhuddo o wneud yr un peth.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau i honiadau yn erbyn Sion Owens o Bonymaen sy’n ymgeisydd ar ran plaid asgell dde’r BNP yn etholiadau’r Cynulliad.

Yn ôl yr Evening Post, roedd Moslemiaid lleol wedi gwrthwynebu’r protestwyr sy’n dod o’r tu allan i’r ddinas – roedden nhw’n eu cyhuddo o fod yn benboeth ac eisiau cyhoeddusrwydd.

Yn ôl y protestwyr eu hunain, roedd angen gwneud safiad yn erbyn digwyddiadau o’r fath.