Dave Jones, hyfforddwr Caerdydd
Fe fydd clybiau pêl-droed Caerdydd, Abertawe a Wrecsam yn cael cystadlu yng Nghwpan Cymru’r tymor nesaf.

Cytunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i’r newid mewn cyfarfod ddechrau’r wythnos.

Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd clybiau eraill sy’n cystadlu yng nghynghreiriau Lloegr, gan gynnwys Casnewydd, Merthyr Tudful a Bae Colwyn yn cael cystadlu.

Fe fydd yn rhoi cyfle i glybiau gorau Cymru gystadlu am le ym mhencampwriaethau Ewrop.

Cafodd clybiau nad oedd yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru a’r cynghreiriau oddi tano eu gwahardd o’r gystadleuaeth yn 1995.

Y nod oedd rhoi cyfle i rai o glybiau llai Cymru gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ewrop.

Ond mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi dweud eu bod nhw’n barod i enwebu un o’r clybiau mawr ar gyfer Cynghrair Europa 2012-13.

Dywedodd Dave Jones, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, ei fod yn croesawu’r penderfyniad.