Nick Bourne yw Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
 Er eu bod nhw’n addo bod  yn ‘lais newydd’ i Gymru yn eu maniffesto, mae’r Ceidwadwyr yn parhau gyda’u harfer oesol o weld bai ar y Blaid Lafur.

Yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad mae’r Ceidwadwyr yn dweud fod Cymru wedi dirywio yn “enbyd” dan Lywodraeth Lafur.

 Ac maen nhw’n gaddo lleddfu problemau’r wlad, os fyddan nhw’n cael eu hetholaeth i lywodraethu Cymru ar Fai’r 5ed.

Tra’n cwyno fod ysbytai, ysgolion a’r economi wedi dirywio dan Lafur, mae’r Torïaid yn addo gwarchod y Gwasanaeth Iechyd rhag unrhyw doriadau ariannol, a gwario mwy ar y Gwasanaeth Ambiwlans, cyffuriau canser a gofal celifion; rhoi mwy o gyfrifoldeb i brifathrawon ac athrawon wario arian ar addysg disgyblion; a helpu busnesau bach trwy ostwng trethi ac ysgogi entrepeneuriaeth.

Yn ôl y Ceidwadwyr mae nhw’n cynnig syniadau newydd fydd yn gwneud Cymru’n wlad fwy cyfoethog a llewyrchus.

Pigion o’r maniffesto

Cyflwyno cerdyn i’r Lluoedd Arfog gael teithiau bws am ddim a blaenoriaeth i ofal gan y Gwasanaeth Iechyd.

Dileu ardrethi busnes i fusnesau is-law gwerth ardrethol o £12,000.

Creu o leiaf pedwar Parth Menter yng Nghymru i hyrwyddo adfywio economaidd a chymdeithasol.

Ceisio sefydlu cyswllt hedfan uniongyrchol rhwng Cymru a Gogledd America.

Penodi Gweinidog Cabinet sydd hefyd yn Weinidog dros Blant a Phobl Ifanc. Byddwn yn sefydlu “cabinet” plant a phobl ifanc i gynghori’r Prif Weinidog.

Pennu targed i adeiladu o leiaf 10,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy erbyn 2015.

Datganoli pwerau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymunedau lleol.

Byddwn yn ei gwneud yn haws i drigolion sbarduno refferenda lleol ar faterion megis codiadau yn y dreth gyngor, lleoedd parcio ac ardrethi busnes.

 Cynnal refferenda ar gyfer meiri a etholir yn uniongyrchol yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam – i roi arweiniad lleol cadarn a sicrhau newid gwirioneddol.

Gweithio tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2031 a 1.5 miliwn erbyn 2051 mewn gwlad sy’n wirioneddol ddwyieithog.

Cameron, Cheryl…wedyn Nick Bourne

‘Llais Newydd Dros Gymru’ yw enw maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig, sy’ wedi ei lansio heddiw.

Y gwleidydd cyntaf i ymddangos o fewn cloriau’r maniffesto yw David Cameron Prif Weinidog Prydain, yna Cheryl Gillan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Y trydydd wyneb Torïaidd i ymddangos yw Nick Bourne, Arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad.

Yn ei ragair i’r maniffesto, mae David Cameron yn pwysleisio fod Cymru yn cymharu’n wael gyda gweddill Prydain o ran cyflogau, swyddi, addysg a’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae’n cyhuddo’r Blaid Lafur o “[b]arhau i ladd” ar Gymru.

Dyma sut mae Prif Weinidog Prydain yn cloi’r rhagymadrodd: ‘Felly, i’r rhai sy’n dweud wrthych chi na all Cymru ei gwneud hi; yn methu â’i gwneud hi; sy’n dweud bod Cymru gormod ar ei hôl hi ac mai dirywio fydd ei ffawd hi – dywedwch wrthynt nad yw hynny’n wir. Dywedwch wrthynt fod gwaith ar droed i sicrhau Cymru iachach, hapusach a mwy ffyniannus, gan ddechrau ar 5ed Mai.’

Yn ei ragair i’r maniffesto mae Nick Bourne hefyd yn cyhuddo’r Blaid Lafur o wneud drwg i Gymru.

Mae nhw ‘wedi niweidio’r genedl fach hon yn ddybryd…yn ystod y degawd diwethaf mae Cymru wedi mynd yn ôl o dan Lafur’ meddai.