Mae Sefydliad Brenhinol y Badau Achub wedi achub dau berson ifanc aeth i drafferthion ar arfordir Sir Gaerfyrddin.

Cafodd merch a bachgen 15 oed eu dal gan y llanw ger hen borthladd Pen-bre tua 10pm ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau wedi bod ar draeth Cefn Sidan ac wedi penderfynu cerdded yn ôl i gyfeiriad Porth Tywyn.

Wrth gyrraedd ochor ddwyreiniol Cefn Sidan sylweddolodd y ddau fod y llanw wedi cau’r ffordd i Borth Tywyn.

Galwodd y ferch 999 a siarad â gwylwyr y glannau Abertawe. Cafodd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub wybod ac anfon bad achub  i gario’r ddau at y lan yn ddiogel. Daeth un o’u rhieni i’w nôl nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y sefydliad eu bod nhw wedi gwneud y peth cywir drwy ffonio 999, a’u bod nhw mewn perygl go iawn pan gafodd y ddau eu hachub.

Lee Howells, Phillip Morgan a Nick Jones oedd yn y bad achub.