Mae tŷ sy’n ymdebygu i Hitler wedi cael llawer iawn o sylw ar y we.

Mae rhaid o drigolion Port Tennant, Abertawe, yn credu fod capan y drws yn debyg i fwstas unben y Natsïaid, a’r to du sydd ar osgo yn debyg i’w wallt.

Mae mwy na 65,000 o bobol wedi edrych ar luniau o’r tŷ ar Twitter ar ôl i’r digrifwr Jimmy Carr dynnu sylw ato.

“Mae’n anodd dweud o ben yma’r stryd, ond o bellter, mae o’n edrych fel Hitler. Mae’n rhyfedd nad ydw i erioed wedi sylwi ar y peth cyn hyn,” meddai Donald Payne, 60, o Bort Tennant.

“Yr unig bryder yw y bydd hyn yn denu’r bobol anghywir. Efallai y dylen i siarad â’r perchennog a chynnig paentio’r drws – neu newid steil y ‘gwallt’!”

Dywedodd Alun Withey, 28, o Bontlliw, Abertawe, fod y tŷ yn “ddoniol iawn”.

“Mae’n edrych fel fersiwn Lego o Hitler,” meddai. “Mae’r stryd yna’n gallu bod yn dipyn o gur ben, yn enwedig yn ystod yr awr brysur.

“Bydd gan yrwyr rywbeth i wenu amdano y tro nesaf maen nhw’n sownd mewn tagfa draffig.”