Fel rhan o araith Adam Price yng nghynhadledd Plaid Cymru, mae’r blaid wedi cyhoeddi cyfres o bolisïau newydd.

Mae’r polisïau yn rhan o ymgyrch y blaid wrth edrych ymlaen at etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Mae’r cynlluniau newydd yn cynnwys cyflwyno Incwm Sylfaenol i bobol ifanc rhwng 18 a 24 oed p’un a ydyn nhw mewn addysg, eisiau dechrau incwm neu’n gwirfoddoli dan yr hyn y mae’r Blaid am ei gyflwyno, sef Gwasanaeth Dinasyddiaeth Cenedlaethol.

Dydy hynny heb gael ei gostio yn iawn eto ond dywed Adam Price wrth golwg360 y byddai’r swm yn “gannoedd o filiynau” o bunnoedd.

Ond yn ôl yr Aelod Cynulliad, byddai’n fuddsoddiad a fydd yn talu dros ei hunain yn yr hir dymor, gan sicrhau bod pobol ifanc yn cael eu denu nôl i Gymru yn hytrach na chwilio am swyddi dros y ffin.

Dywedodd ei fod am weld Cymru yn stopio ‘rhoi arian i gwmnïau tramor’ drwy eu trethi yn fwy trwm.

Ailwampio trethi busnes

Cyhoeddodd fod Plaid Cymru am ailwampio’r system ardrethi busnes hefyd gan gyflwyno system dreth newydd a fydd yn codi treth ar gwmnïau yn ôl eu gallu i dalu.

Mae Plaid Cymru hefyd am sefydlu melin drafod newydd – Nova Cambria – er mwyn trafod a dadansoddi rhai o’r syniadau polisïau sydd gan y blaid.

Roedd Adam Price yn cydnabod bod y rhain i gyd yn syniadau ifanc ac y byddai angen mwy o drafod cyn cyhoeddi mwy o fanylion.

Cymru yn genedl “hwyr”

Yn ei araith, dywedodd Adam Price bod Cymru yn genedl “hwyr” – yn “hwyr i ennill rhyddid”, “hwyr i adfywio’r iaith”, “hwyr i drydaneiddio’r rheilffyrdd” ac yn “hwyr i ddysgu hanes ein hunain i’n plant.”

Mae Cymru yn “genedl hwyr yn gofyn am friwsion o Loegr tra bod bara ein hunain yn pydru”, ychwanegodd.

Ac mi aeth yn emosiynol wrth drafod sefyllfa Catalwnia, gan ddweud bod Cymru yn diolch i’r bobol aeth allan i bleidleisio yn y refferendwm a’i fod wedi “torri lawr” i grio tra bu yno yn gwylio’r bleidlais yn digwydd.