Heini Gruffudd
Mae’r ddirwy bosib i gyrff cyhoeddus sy’n methu darparu gwasanaethau Cymraeg yn “chwerthinllyd o isel” yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Ond mae un o gyn-Brif Weithredwyr Bwrdd yr Iaith yn dweud nad oes angen cosbi yn ariannol o gwbl.

Ers pasio Mesur y Gymraeg yn 2011 mae gan Gomisiynydd y Gymraeg yr hawl i osod dirwy o £5,000 ar gyrff cyhoeddus sydd ddim yn cadw at eu Safonau Iaith, sef addewidion i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddiddymu swydd y Comisiynydd Iaith, a chael trefn newydd.

Wrth gyfrannu i’r ymgynghoriad, mae Dyfodol i’r Iaith wedi dweud bod angen cynyddu’r gosb ariannol am fethu darparu gwasanaethau Cymraeg.

Yn ôl Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith mae’r gosb o £5,000 – ffigwr a gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru – yn “biso dryw bach yn y môr” i gyrff cyhoeddus fel cynghorau sir a byrddau iechyd.

“Mewn gwirionedd, os yw’r ddirwy yn fach dyw e’ ddim yn arwain at unman,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360.

“Does dim pwrpas rhoi [cosb o] £5,000 oherwydd ei fod yn amherthnasol mewn gwirionedd i gorff. Dyw £5,000 ddim yn ffactor i unrhyw awdurdod lleol. Dyw e’ ddim yma nac acw.”

Nid yw Heini Gruffudd yn fodlon enwi swm teilwng ar gyfer cosbi cyrff cyhoeddus.

“Mae’n anodd gosod ffigwr,” meddai, “ond mi ellid cyplysu’r ffigwr ag incwm a gwariant y corff.

“Mae hyn yn digwydd mewn achosion personol mewn unrhyw lys. Mae dyn yn barnu beth yw’r swm priodol yn ôl cyfoeth y corff.”

Hybu a hyrwyddo

Mae cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith o’r farn nad oes angen dirwyo cyrff cyhoeddus o gwbl.

Yn ôl John Walter Jones dylid “hybu a hyrwyddo” yr iaith Gymraeg.

“Dw i erioed wedi credu yn y busnes cosbi,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n dal i’w ddweud o, ac mi fydda i’n ei ddweud o tan fydda i’n mynd i fy medd – hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg sydd eisiau’i wneud. A dydw i ddim yn gweld bod cosb ariannol yn llwyddo i wneud hynny.

“Mae angen rhoi rheswm [i bobol] ddefnyddio’r Gymraeg. Mae angen rhoi help iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg. A dw i’n gofyn y cwestiwn wedyn – ers sefydlu Bwrdd yr Iaith tua 30 blynedd yn ôl, faint pellach ydyn ni o ran hybu a hyrwyddo a helpu pobol i wneud hynny?”

Mae’n ategu bod angen gwneud hi’n “haws i gyrff” i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg a bod rhaid “ffeindio ffyrdd o wneud y peth yn fwy hygyrch”.

“Newid meddylfryd”

Yn ôl Heini Gruffudd, nid cosbau ariannol yw’r “brif arf” wrth geisio sicrhau gwasanaethau Cymraeg, ac mae’n derbyn mai’r “peth hanfodol” yw i “newid meddylfryd” cyrff ac unigolion.

“Yn y lle cyntaf efallai bod angen gorfodaeth – tu ôl i bob deddf mae yna sustem gosb,” meddai. “Ond yn y pendraw, mae angen i’r defnydd o’r Gymraeg gael ei weld fel peth normal fel nad yw’r peth yn ddadleuol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn edrych i wneud gwelliannau i’r broses Safonau tra ein bod yn cytuno cyfeiriad polisi y dyfodol ac yn paratoi’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i’w roi ar waith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd gwaith y Comisiynydd yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gyflawni’r gwaith yma nes bod unrhyw drefniadau newydd mewn lle.”