Hillary Clinton
Bydd Hillary Clinton yn trafod y syniad o gael Senedd i bobol ifanc Cymru pan fydd hi’n ymweld â Phrifysgol Abertawe yfory.

Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau yn cael doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe ac yn cyflwyno darlith.

Hefyd fe fydd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe yn cael ei hailenwi yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Hefyd fe fydd hi’n cyfarfod â Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ac mi fydd y ddau ffigwr yn trafod materion hawliau plant a chynlluniau i sefydlu ‘Senedd Ieuenctid Cymru’.

Mae Comisiwn y Cynulliad eisoes wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r cynllun fydd yn caniatáu i bobol ifanc rhwng 11 ac 18 oed i ethol 60 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru.

“Mae Cymru’n haeddiannol falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni i hyrwyddo’r agenda hawliau plant,” meddai Elin Jones.

“Ac rwy’n falch o allu rhannu gyda Hillary Clinton sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu at hyn.”

Anrhydeddu

Yn ystod ei hymweliad bydd Hillary Clinton hefyd yn cael gradd doethur er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Yn ôl y brifysgol bydd yr anrhydedd yn  cael ei gyflwyno i’r gwleidydd am ei “hymrwymiad i hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd”.