Llun: PA
Mae Aelod Cynulliad wedi beirniadu cynnig gan Gyngor Sir y Fflint sy’n ymwneud a phapur newydd The Sun.

Nid yw’r blaid Lafur yn “cefnogi rhyddid barn” na “rhyddid y wasg” bellach, yn ôl Janet Finch-Saunders.

Daw sylw’r Aelod Cynulliad Ceidwadol fel ymateb i’r bleidlais gan Gyngor Sir y Fflint – cyngor sydd dan awdurdod Llafur – heddiw dros bapur newydd The Sun.

Bwriad y Cyngor trwy gyflwyno’r cynnig yw i “gondemnio” ymddygiad y papur – yn bennaf gohebiaeth y papur ar drychineb Hillsborough yn 1989, lle bu farw 96 o bobl.

Bydd aelodau’r awdurdod lleol yn pleidleisio dros gynnig i “gefnogi unrhyw werthwyr yn Sir y Fflint sydd yn dewis peidio gwerthu papur The Sun.”

Mae’r cynghorwyr wedi cefnu ar y cynllun gwreiddiol i bleidleisio dros gynnig a fyddai’n gwahardd pobl rhag dod a’r papur newydd i adeiladau’r awdurdod ynghyd a gwahardd newyddiadurwyr  The Sun o safleoedd yr awdurdod, gan gynnwys adrodd ar gyfarfodydd y cyngor.

Yn ôl Janet Finch-Saunders fe fyddai gwaharddiad o’r fath yn anghyfreithlon.

“Unbenaethau”

“Dyma gam plentynnaidd a sbeitlyd gan y Blaid Lafur,” meddai Janet Finch-Saunders. “Plaid sydd bellach ddim yn cefnogi rhyddid barn na rhyddid y wasg.”

“Dyma ymgais i sensro’r cyfryngau yn llwyr, ac mae hyn yn gam arall bisâr gan adain chwith sydd bellach ddim yn meddu ar yr hyder i ddadlau â’u gwrthwynebwyr.”

“Dyma sut mae unbenaethau yn dechrau, dylai bod [Arweinydd y Blaid Lafur] Jeremy Corbyn yn gwybod ambell i beth amdanyn nhw.”

Mae golwg360 wedi gofyn i The Sun, Cyngor y Fflint a’r Blaid Lafur am ymateb.