A ydi treulio amser mewn parciau a thraethau yn medru cael effaith bositif ar ein hiechyd hir dymor ac ar ein cyflwr meddyliol?

Dyna fydd ymchwilwyr o gasgliad o brifysgolion rhyngwladol – gan gynnwys dwy brifysgol yng Nghymru – yn ei holi wrth wneud astudiaeth o effaith yr awyr agored ar iechyd pobol.

Wedi’i hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) bydd yr astudiaeth yn ystyried data yn gysylltiedig ag amgylchedd a phoblogaeth Cymru.  

Bydd academyddion y prosiect yn casglu data 1.7 miliwn o bobol yng Nghymru i ddarganfod sut mae defnydd gwasanaethau iechyd yn newid wrth i amgylcheddau lleol newid.

Mae prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn rhan o’r prosiect ynghyd â Phrifysgol Exeter a Sefydliad Barcelona dros Iechyd Byd-eang.

Gwyrddni

“Byddwn yn ceisio profi os ydi pobol sydd yn ymweld llefydd fel parciau a thraethau yn adrodd boddhad a chyflwr iechyd gwell,” meddai’r Athro Cysylltiol o Brifysgol Abertawe, Sarah Rodgers.

“Byddwn yn medru darganfod, er enghraifft, os ydyipobol yn adrodd boddhad uwch mewn ardaloedd gwyrdd gan ei bod yn ymweld â llefydd gwyrdd yn amlach na phobol mewn ardaloedd llai gwyrdd.”