Tata (Llun: Ben Birchall/PA)
Mae miloedd o swyddi mewn perygl yn sgil y trafodaethau sydd ar y gweill i uno cwmnïau Tata a Thyssenkrupp.

Mae memorandwm o ddealltwriaeth wedi cael ei lofnodi ond does dim disgwyl cytundeb terfynol am hyd at flwyddyn arall.

Fe allai nifer y swyddi mewn perygl godi i 2,000 rhwng y ddau gwmni, ond fe allai rhannau o’r fusnes gael eu gwerthi ar ôl iddyn nhw uno, gan arwain at golli rhagor o swyddi.

Swyddi gwerthiant a marchnata yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw, gan mai dyma lle mae’r cwmnïau’n credu y gallan nhw arbed arian.

Mae’r cynllun i uno wedi cael ei groesawu gan undebau, ond maen nhw’n rhybuddio na fyddan nhw’n fodlon derbyn colli swyddi.

Cefndir

Dechreuodd y trafodaethau rhwng Tata a Thyssenkrupp yn dilyn penderfyniad Tata na fydden nhw’n gwerthu rhannau Prydeinig y cwmni, gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot.

Ond roedd oedi yn y trafodaethau ar ôl i berchnogion Indiaidd y cwmni geisio sêl bendith gweithwyr i addasu eu pensiynau.

Mae’r ddau gwmni yn cyflogi hyd at 48,000 o weithwyr, gan gynnwys 4,000 ym Mhort Talbot.

Ymateb

Yn ôl cadeirydd Tata Steel yn Ewrop, Andrew Robb, mae’r cynlluniau i uno yn “gynaladwy ym mhob ffordd”, a byddai uno yn “gosod y sylfeini cryfaf posibl” ar gyfer y weledigaeth o fod yn “arweinydd byd-eang yn y tymor hir”.

Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Greg Clark wedi croesawu’r cyhoeddiad fel “cam pwysig” i’r diwydiant dur ac i Bort Talbot “fel gwneuthurwr dur o safon fyd-eang sy’n canolbwyntio ar ansawdd, technoleg ac arloesedd”. 

Dywedodd cadeirydd Tata, Natarajan Chandrasekaran fod y bartneriaeth yn “achlysur mawreddog” i’r cwmni.

Dywedodd Roy Rickhuss ar ran yr undebau eu bod nhw wedi cael sicrwydd na fydd safleoedd yn cau ac na fydd gallu’r cwmnïau i weithredu’n llawn yn cael ei effeithio.