Seremoni gwobrwyo ap Magi Ann (Llun: Menter Iaith Fflint a Wrecsam)
Mewn seremoni arbennig yn Llundain neithiwr fe enillodd ap sy’n helpu teuluoedd i ddysgu Cymraeg un o brif wobrau’r Loteri Genedlaethol.

Fis diwethaf fe gafodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam, sydd wedi datblygu ap Magi Ann, wybod eu bod wedi ennill gwobr am yr ap gorau yn y categori addysg.

Dyma oedd yr unig brosiect yn yr iaith Gymraeg i gyrraedd y rownd derfynol, ac maen nhw wedi ennill £5,000 i ddatblygu’r prosiect ymhellach ynghyd â thlws wedi’i gyflwyno gan y gantores Kimberley Walsh a arferai fod yn rhan o’r grŵp Girls Aloud.

“Pleser pur oedd cael arwain y prosiect ap Magi Ann i drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf,” meddai Rhian Davies ar ran Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

“Hoffwn gyflwyno’r wobr hon i bawb sydd yn brwydro i ddiogelu dyfodol ein hieithoedd brodorol,” meddai wedyn.

A chyn troi am adref, fe aeth y criw i gynnal sesiwn stori a chân yn Ysgol Gymraeg Llundain.