Vaughan Roderick (Llun: Y Lolfa)
Ar drothwy cyhoeddi ei lyfr newydd,
Pen ar y bloc, mae Vaughan Roderick wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod BBC Cymru “wedi gwneud mwy tros y Gymraeg nag unrhyw gorff arall sydd yna yng Nghymru”.

Ond mae golygydd Materion Cymreig y BBC yn gresynu at y sylw roddodd rhaglen Newsnight i’r iaith Gymraeg yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Bu cwynion lu am yr eitem oedd yn cynnwys dau berson nad oedd yn medru siarad y Gymraeg yn trafod ei sefyllfa.

“Y cyfan fyswn i’n dweud,” meddai Vaughan Roderick am eitem Newsnight, “mae yna anwybodaeth ynghylch Cymru yn Lloegr sydd yn mynd yn ôl tros fil o flynyddoedd.

“Ac mi’r oedd [yr eitem ar Newsnight] yn enghraifft o’r anwybodaeth yna.”

Ond mae un o leisiau amlyca’r BBC yng Nghymru yn credu ei bod yn bwysig i’r rhai sy’n cwyno gofio am holl waith da’r Gorfforaeth o ran yr iaith.

“Yr hyn fi ddim yn gallu deall yw’r bobol yma rydych chi’n gweld weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn meddwl bod yna ryw gynllwyn enfawr, maleisus gan y BBC yn erbyn Cymru a’r Gymraeg – pan mae’r BBC mewn gwirionedd wedi gwneud mwy tros y Gymraeg nag unrhyw gorff arall sydd yna yng Nghymru.

“Tydw i jest ddim yn deall yr agwedd yna. A beth maen nhw yn ei wneud trwy [ymosod ar y BBC], yn hytrach na chefnogi pobol sydd yn brwydro brwydrau mewnol o fewn y BBC tros bethau fel cael Radio Cymru 2 ac yn y blaen, mae e’n ei wneud e’n anoddach i ni oherwydd maen nhw’n ymddangos fel petaen nhw’n wrthwynebus.

“Pan rydach chi’n cael pobol, er enghraifft, ar ôl Newsnight, yn dweud y dylsen nhw wrthod ymddangos ar Radio Cymru, i brotestio yn erbyn Newsnight, wel tydyn nhw ddim yn brifo Newsnight.

“Yr hyn maen nhw’n brifo yw’r cyfrwng darlledu pwysicaf i’r Gymraeg sydd yna. Mae hi lawer pwysicach nag S4C o safbwynt cynnal y Gymraeg.

“Ac rydach chi’n cael Cymry da yn dweud: ‘Ni ddim yn mynd arno fe achos bod Newsnight wedi gwneud rhywbeth’.

“Wel lle mae eu synnwyr cyffredin nhw?”

Radio Cymru “llawer pwysicach” nag S4C – mwy gan Vaughan Roderick yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.

Bydd y gyfrol Pen ar y bloc, sef casgliad o flogiau Vaughan Roderick i’r BBC ers 2004, yn cael ei lansio yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf.