Mae un o gyrff gofal iechyd Cymru wedi mynegi pryder am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu corff newydd sydd wedi’i seilio ar Gyngor Iechyd yr Alban.

Mewn datganiad mae’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yn cytuno bod angen sefydlu corff newydd â chylch gorchwyl dros iechyd a gofal cymdeithasol.

Er hynny maen nhw’n “mynegi pryder sylweddol” y byddai cynlluniau’r Llywodraeth yn arwain at gorff yn cael ei sefydlu, fyddai’n cynrychioli’r bobol ond heb y gallu i wrando ar y cyhoedd.

Mae’r bwrdd hefyd yn pryderu na fyddai’r corff gyda’r pŵer i “gynrychioli eu buddiannau” ac i “ddwyn sefydliadau i gyfrif” am y gwasanaethau maen nhw’n darparu. 

Cyhoeddiad “tawel”

Ymateb yw sylwadau’r bwrdd i bapur gwyn – ‘Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol’ -gan Lywodraeth Cymru sydd yn cynnwys cynigion i ddiddymu Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.

Mae’r bwrdd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gyhoeddi’r cynigion yma “yn dawel” wrth i’r Cynulliad dorri am yr haf, ac maen nhw’n gofidio nad yw’r cyhoedd yn “ymwybodol” ohonyn nhw.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i sylwadau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned gan nodi ei bod am sicrhau y bydd gan unrhyw gorff newydd y “pwerau i gyflawni’r rôl”.

“Mae’n bwysig cydnabod nad yw cynigion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â Chynghorau Iechyd Cymuned yn unig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ond dylid eu hystyried gyda’i gilydd fel pecyn o fesurau posib a gynlluniwyd i nid yn unig atgyfnerthu lleisiau pobol sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd i wella ansawdd a llywodraethu’r gwasanaethau hynny yng Nghymru.

“Rydym yn falch bod y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yn cydnabod yr angen am gorff newydd ond yn amlwg rydym am i’r ymatebion i’r ymgynghoriad hysbysu’r manylion ynghylch unrhyw drefniadau newydd a chlywed gan drawstoriad eang o randdeiliaid ar yr holl gynigion.”