Mae pennod o raglen ar
Channel 4 sydd yn dilyn cwpwl o Loegr yn chwilio am dai haf ym Mhen Llŷn, wedi ennyn ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd clipiau o’r bennod eu uwch lwytho ddydd Sul (Medi 10) a hyd yma mae 90 o bobol wedi ymateb a 40 sylw wedi eu gadael.

Mae’r clipiau o raglen A Place in the Sun: Home or Away wedi llwyddo corddi yn bennaf oherwydd y ffordd y mae’r gyflwynwraig yn cyfeirio at y penrhyn.

Mewn un clip mae’r cyflwynydd yn nodi: “Mae tai ar Benrhyn Llŷn yn boblogaidd â phobol sydd ar ei gwyliau, yn enwedig Caer a Manceinion. Felly, yn aml caiff ei alw’n Cheshire by the Sea.”

Mae’r gyflwynwraig ynghyd â’r cwpwl yn ymweld â nifer o leoliadau o Aberdaron i fwthyn traddodiadol yn Rhiw, ac ar un adeg yn cymharu galw’r penrhyn yn “Land’s End of Wales.”

“Codi cwestiynau”

Yn ôl awdur y post, Iola Wyn, er bod y rhaglen yn ddigon diniwed, mae’n codi “cwestiynau mawr” am y diwydiant tai haf yng Nghymru.

“Mae’n codi cwestiynau mawr sydd angen ei drafod bellach, ynglŷn â mewnfudo i ardaloedd Cymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Pwnc dyw gwleidyddion ddim yn cyffwrdd ag o ar hyn o bryd gan ei bod nhw’n meddwl ei fod yn rhy sensitif. Pwnc fyddai’n gallu bod yn fêl ar fysedd rhai gwleidyddion sydd yn wrth-Gymraeg…

“Dyw hi ddim yn ddu a gwyn. Mae angen asesiad realistig o’r sefyllfa yma. Faint o dai haf sydd yn ein bröydd Cymraeg ni erbyn hyn?”