Ymgyrch achub y Palod Manaw (Llun: RSPCA)
Mae swyddogion un o elusennau adar Cymru ynghanol ymgyrch i achub cannoedd o adar sydd yn sownd ar draeth yn Sir Benfro.

Hyd yma mae swyddogion Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA), wedi llwyddoi  achub 140 o’r palod Manaw oddi ar draeth yn Niwgwl.

Mae’n debyg bod palod Manaw yn aml yn cael trafferth ymdopi â thywydd garw, a gwnaeth cannoedd o’r adar lanio ar y traeth o ganlyniad i’r tywydd “stormus a gwyntog.”

“Rydym yn ddiolchgar i’n gwirfoddolwyr sydd yn cynorthwyo â’r gwaith cymhleth yma, ac mae’r ymgyrch achub yma yn galw am ddefnydd llawer o adnoddau’r RSPCA,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

Aberystwyth

Fe ddechreuodd ymgyrch diweddaraf yr RSPCA ar ol dod o hyd i bâl Manaw mewn cyflwr gwael yng nghanol ffordd yn Aberystwyth ddydd Iau (Medi 7). Bellach mae wedi ei gludo i Ysbyty Adar Gŵyr.

Mae’r RSPCA Cymru wedi rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wrth ymdrin â’r adar gan fod eu pigau yn finiog.

Dylai unrhyw un sydd yn gweld pâl Manaw sydd angen cymorth, gysylltu â’r elusen trwy alw ei llinell frys 24 awr ar 0300 1234 999.