Mae dyn wedi cael ei drywanu bore yma yn ardal Treganna, Caerdydd, a dyn arall wedi’i arestio.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw am tua 5:30yb i ddigwyddiad ar Ffordd Lecwydd yn yr ardal yng ngorllewin y ddinas.

Cafodd dyn 43 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau â chyllell ac mae mewn cyflwr sefydlog.

Yn y cyfamser, mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.