Mae’r siwrne drenau rhwng Canol Caerdydd a Bryste ymysg un o’r arafaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil diweddar.

Mae’n debyg fod y daith rhwng y gorsafoedd yng Nghaerdydd a Bryste yn cymryd 55 munud i deithio 24 milltir, wrth i’r trên deithio 30 milltir yr awr.

Daw’r ystadegau o ddadansoddiad y Press Association, sydd yn awgrymu bod trenau hyd at dair gwaith yn arafach y tu allan i dde ddwyrain Lloegr.

Taith drenau arafaf Prydain yn ôl y dadansoddiad, yw’r siwrne rhwng Canol Lerpwl a Chaer – taith 14 milltir sydd yn 41 munud o hyd gyda’r trên yn teithio 20 milltir yr awr.

Ar y llaw arall mae’r daith rhwng Paddington Llundain a Reading yn 17 munud o hyd yn unig, er bod y daith ddwy filltir a hanner yn hirach.

“Camarweiniol”

Yn ôl corff sydd yn cynrychioli gweithredwyr trenau, mae’r ystadegau yn “gamarweiniol” oherwydd dydy llawer o’r trenau sydd yn teithio o Lundain ddim yn stopio mewn cymaint o orsafoedd.

“Mae’n gamarweiniol cymharu gwasanaethau sydd yn stopio, gyda gwasanaethau rhwng dinasoedd sydd yn gyflymach oherwydd dydyn nhw ddim yn stopio,” meddai Prif Weithredwr y Rail Deliver Group, Paul Plummer.

“Wrth gwrs, rhaid parhau i fuddsoddi er mwyn gwella teithiau ledled y wlad. Mae rheilffyrdd yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gysylltu cymunedau ac annog twf economaidd.”

Prosiectau

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth gefnogi cynllun rheilffyrdd newydd – Crossrail 2 – gwerth £30 biliwn ar gyfer Llundain a’r De Ddwyrain.

Daeth hyn ond ychydig ddyddiau wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnu ar brosiectau yng Nghymru a gweddill Lloegr. Ymysg rhain oedd cynllun i drydanu’r lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.