“A oes angen ieithoedd lleiafrifol arnom?” yw’r cwestiwn mewn erthygl ymfflamychol gan gylchgrawn i blant wyth i 14 oed yr wythnos hon.

Mae The Week Junior yn dadlau mai “Saesneg yw iaith y Deyrnas Unedig”, cyn mynd ymlaen i drafod manteision ac anfanteision dysgu ieithoedd lleiafrifol i blant.

Mae’r cylchgrawn yn nodi bod yr erthygl wedi cael ei hysgrifennu “mewn cydweithrediad â’r Undeb Dros Siarad Saesneg – undeb sy’n annog pobol ifanc i ddarganfod eu llais”.

Mae’r erthygl yn nodi cwymp o 7,000 rhwng 2004 a 2014 yn y nifer o bobol sy’n siarad Cymraeg, gan ychwanegu bod y Cymry’n “cymryd camau mawrion” i achub y Gymraeg, lle caiff gwersi “eu dysgu yn yr iaith leol yn unig” yn yr ysgolion.

“Ydy hyn yn syniad da?” meddai’r erthygl, cyn ychwanegu, “Oes diben dysgu ieithoedd lleiafrifol?”

“Mae pob iaith yn bwysig”

Wrth gyflwyno’r dadleuon o blaid dysgu ieithoedd lleiafrifol mewn ysgolion, dywed yr erthygl fod “pob iaith yn bwysig”.

Wrth gyfeirio’n benodol at y gwymp yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg, ychwanega’r erthygl: “Mae digon o bobol sy’n ei siarad. Onid oes ganddyn nhw hawl i rannu’r iaith â chenedlaethau’r dyfodol?”

… Ond “neb ei hangen”

Wrth gyflwyno’r anfanteision o ddysgu ieithoedd lleiafrifol mewn ysgolion, dywed yr erthygl ei bod yn “[g]wastraff amser dysgu iaith mae cyn lleied o bobol yn ei siarad” ac “nad oes neb ei hangen”.

Dywed fod “ffyrdd newydd o gyfathrebu, gan gynnwys emojis”, ac y “dylai ysgolion ganolbwyntio ar ddysgu ieithoedd mae miliynau o bobol yn eu siarad”, gan gynnwys Sbaeneg a Mandarin.

Wrth awgrymu nad oes lle i ieithoedd lleiafrifol yn yr ystafell ddosbarth, awgryma’r erthygl y “gall ieithoedd lleiafrifol gael eu dysgu yn y cartref”, a bod hynny’n “gwneud mwy o synnwyr” er mwyn “paratoi disgyblion ar gyfer y byd ehangach”.

Pôl piniwn

Mae’r erthygl hefyd yn cyfeirio at bôl piniwn yn y rhifyn blaenorol, yn gofyn “a yw’n bwysig cadw ieithoedd lleiafrifol yn fyw”.

77% o bobol oedd yn dweud ei bod yn bwysig, gyda 23% yn dweud nad yw’n bwysig.