Mae’r canran o ddisgyblion wnaeth dderbyn graddau A* i C yn eu TGAU wedi disgyn i’r lefel isaf ers dros ddegawd.

Eleni mi wnaeth 62.8% o ddisgyblion dderbyn graddau A* i C, sydd yn gwymp o 3.8% o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.

Mae’r canran wnaeth dderbyn graddau A* i A hefyd wedi gostwng gyda 17.9% yn derbyn y graddau eleni o gymharu â 19.4% y llynedd.

Yn ôl y corff sydd yn rheoleiddio cymwysterau, cynnydd yn nifer y disgyblion 15 blwydd oed wnaeth sefyll yr arholiadau sydd yn gyfrifol am y cwymp.

Gwelliannau a newidiadau

Mae’r canran o ddisgyblion sydd yn derbyn gradd A* wedi aros yn 6.1% ac mae canlyniadau Cymraeg Ail Iaith a Chymraeg Llenyddiaeth wedi gwella.

Roedd cymhwyster newydd eleni ar gyfer: Cymraeg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth a phwnc mathemateg ychwanegol.

Er gwnaeth 2.1% yn llai o bobol ifanc 16 blwydd oed sefyll TGAU eleni, bu cynnydd 7.6% yn nifer y cofrestriadau gan ymgeiswyr.

“Hynod o siomedig”

“Mae canlyniadau TGAU heddiw yn hynod o siomedig ac yn dangos dirywiad ers canlyniadau llynedd,” meddai Ysgrifennydd Addysg Gysgodol y Ceidwadwyr, Darren Millar.

“Er hoffwn longyfarch y myfyrwyr sydd wedi derbyn y canlyniadau maen nhw’n haeddu, mae’r canlyniadau yn dangos nad oedd modd iddyn nhw wireddu eu potensial.”

“Mae’n glir fod Llywodraeth Cymru wedi ar ran y myfyrwyr, ac maen nhw wedi methu a gwireddu gwelliannau maen nhw wedi addo tro ar ôl tro.”

“Llongyfarchiadau”

“Hoffwn longyfarch y myfyrwyr, athrawon a’r teuluoedd sydd yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw,” meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llŷr Gruffydd.

“Mae’r canlyniadau yn binacl gwaith caled y myfyrwyr a pharatoad gofalus gan yr athrawon, ac yr ydym yn canmol eu hymrwymiad.”

“Gwyddom y cymer y system newydd beth amser i ymsefydlu, a dangoswyd hyn yn y canlyniadau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr ystyried y canlyniadau hyn a’r hyn maen nhw’n ei olygu i fyfyrwyr fydd yn cymryd TGAU’r flwyddyn nesaf a’r flwyddyn wedyn.”